
Côr cymysg sydd â chyfartaledd o hanner cant o aelodau wrth berfformio ac sydd wedi bod yn canu ers bron i ddeugain mlynedd yw Cantorion Creigiau. Defnyddia’r côr ganeuon Cymraeg a Saesneg a pherfformia ar hyd a lled Cymru ac yng ngweddill y DU. Ymddangosodd y Côr hefyd yn yr Iwerddon, Llydaw, Yr Eidal, Awstria, Hong Kong a Menorca.
Os hoffech ein gwahodd i’ch difyrru chi neu’ch sefydliad mewn cyngerdd, cinio corfforaethol, priodas neu achlysur i godi arian i elusen, yna cysylltwch â ni.
