Ffurfiwyd Cantorion Creigiau yn bennaf gan bobl o bentref Creigiau, ychydig filltiroedd i’r Gogledd Orllewin o Gaerdydd.
Gall y Côr ddarparu cerddoriaeth ar gyfer amrywiaeth o safleoedd a chynulleidfaoedd, Mae rhaglen gyngerdd arferol yn cynnwys amrywiaeth eang o ddarnau Cymraeg a Saesneg sy’n cwmpasu cerddoriaeth o’r corawl i ganeuon o’r West End a gellir cynnwys ystod o sgetsys doniol os dymunir.
Ers ei sefydlu mae’r Côr wedi perfformio ar raglenni teledu ac mewn mannau adnabyddus e.e.Cyngerdd agoriadol Neuadd Dewi Sant gyda Seindorf Canolog yr RAF, Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd ac yn Neuadd y Ddinas Caerdydd lle bu’r côr yn diddannu gwesteion mewn cinio a drefnwyd i’r Frenhines: Abaty Caerfaddon; Cymdeithasau Cymraeg ledled Lloegr ac yn Hong Kong. Enillodd y Côr wobrau yn yr Eisteddfod Genedlaethol a Gwyliau Celtaidd yn Llydaw. Codwyd tua miliwn o bunnau i elusennau gan y Côr yn uniongyrchol neu yn anuniongyrchol.
Darparwn repertoire o safon broffesiynol ond rydym hefyd yn adnabyddus am ein sesiynau anffurfiol byrfyfyr ar ôl y brif gyngerdd!
Mair Roberts yw Cyfarwyddwr ac Arweinydd Cantorion Creigiau
Derbyniodd Mair hyfforddiant yn Ysgol Gerdd y Guildhall, Llundain ac yn Ysgol Llwyfannu Italia Conte Llundain. Bu’n gweithio yn y theatr, mewn cabaret, pantomeim a theledu. Hi sydd wedi bod yn Gyfarwyddwr Cerddorol Cantorion Creigiau ers ei gychwyn ym 1970. Fel soprano broffesiynol ymddangosodd Mair ar nifer o lwyfannau gorau’r byd gan gynnwys Tŷ Opera Sydney; mae hefyd wedi beirniadu mewn llawer o Eisteddfodau a Gwyliau Cerddorol.
Yn 2010 fel cydnabyddiaeth o’i chyfraniad i Gantorion Creigiau ac i gerddoriaeth yng Nghymru, fe urddwyd Mair er anrhydedd gan Orsedd y Beirdd yn Eisteddfod Genedlaethol Glyn Ebwy. Dyma ddarn o’r deyrnged iddi: Mae ei chyfraniad fel beirniad ac unawdydd ar lwyfannau cenedlaethol a rhyngwladol yn arwydd o’r parch sydd iddi fel cerddor amryddawn.